Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (34) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
13.57
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.06
3. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2011
NDM4868 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.13
4. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
NDM4869 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.15
5. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
NDM4867 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.26
6. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
NDM4866 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.30
7. Dadl ar y Gyllideb Flynyddol/Derfynol
NDM4870 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo’r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 29 Tachwedd 2011.
Troednodyn:
Yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, dyma’r wybodaeth sydd yn y Gyllideb Derfynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae’r cynnig yn ymdrin â hi;
3. cysoniad rhwng yr adnoddau a neilltuwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoniad rhwng amcangyfrifon o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Cyhoeddwyd yr wybodaeth ychwanegol hon hefyd ar gyfer yr Aelodau:
Nodyn esboniadol ynglyn â’r newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
22 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
15.58
8. Dadl ar Heriau Iechyd Cyhoeddus – Rheoli Tybaco
NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;
2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:
a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a
b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
2 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
1 |
12 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;
2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:
a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a
b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
1 |
2 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
16.45
9. Dadl Plaid Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4872 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:
a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a
b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
6 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
17.43
Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12:30 Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011